Landscape                                                                                                                                    

 

DATGANIAD I’R WASG

Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol: Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

Mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhyddhau'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

 

Dywedodd Mr Ramsay:

 

"Mae gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS) rôl bwysig i'w chwarae o ran sicrhau gwell bargen i gyrff cyhoeddus am eu nwyddau a'u gwasanaethau ac wrth gyflawni amcanion polisi caffael ehangach Llywodraeth Cymru.

 

"Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn ei gwneud yn glir bod yr NPS ymhell o gyrraedd y disgwyliadau, sydd erbyn hyn yn ymddangos yn or-optimistaidd, ynghylch  faint o wariant cyhoeddus y byddai'n gallu dylanwadu arno, o leiaf yn ystod ei flynyddoedd cynnar.

 

"Mae'r adroddiad yn codi rhai cwestiynau ehangach ynghylch ymrwymiad cyrff cyhoeddus i brynu ar y cyd ac am y cydbwysedd rhwng blaenoriaethau cenedlaethol a lleol, a rheolaeth gyffredinol yr NPS.

 

"Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad hwn am yr NPS ochr yn ochr ag adroddiad ehangach yr Archwilydd Cyffredinol ar Gaffael Cyhoeddus yng Nghymru, a gyhoeddwyd fis diwethaf." 

 

 

Nodiadau i olygyddion

 

Mae'r adroddiad llawn ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth, neu i wneud cais am gyfweliadau, lluniau neu gyfleoedd ffilmio, cysylltwch â gwasanaeth cyswllt â'r cyfryngau y Cynulliad Cenedlaethol ar 0300 200 7487, neu anfonwch neges e-bost at newyddion@cynulliad.cymru.

 

 

facebook twitter flickrClean_YouTube_Icon_by_TheSuperPup